Rwy ti yma: Cartref

icreu

maint y testun Increase SizeDecrease SizeReset font to default
 
Cartref
Am iCreu
ImageMae Coleg Prifysgol y Drindod Caerfyrddin wedi llwyddo i ennill cyllid ar gyfer y prosiect hwn dros y 2 flynedd ddiwethaf.

Bydd y prosiect yn datblygu hyfforddiant yn y maes creadigol a’r celfyddydau diwylliannol, gweithgareddau a datblygiad o fewn De-orllewin Cymru, yn ogystal ag annog entrepreneuriaeth o fewn y sector celfyddydol.

Lleolir y gweithgareddau’n bennaf yn Y Llwyfan, sef Canolfan y prosiect, sydd hefyd yn ganolbwynt i’r diwydiannau Creadigol a Diwylliannol yn Sir Gaerfyrddin.

Cyllidir y prosiect gan Y Cynllun Datblygu Gwledig, Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin mewn partneriaeth â Choleg Prifysgol y Drindod, Caerfyrddin, a’i nod yw dod â’r cyfleoedd canlynol ichi fel artist creadigol-

Digwyddiadau Sgiliau a Hyfforddi

Gweithdai a seminarau i ddatblygu sgiliau a hyfforddiant o fewn y sector Creadigol a busnes.

Cyfleoedd Rhwydweithio


Mae iCreu yn cynnal cyfarfodydd a digwyddiadau rhwydweithio rheolaidd a fydd yn cynnig cyfle ichi fel artist siarad â phobl o’r un anian, cael eich ysbrydoli a dod â’ch talent a chreadigrwydd i gynulleidfa ehangach.

Cychwyn a Chymorth i Fusnesau Creadigol


Cyngor ar sut i lansio Busnes Creadigol, hanfodion diwydiannau creadigol, digwyddiadau hyfforddi i ddatblygu busnesau cyfredol o fewn y sector. Creadigrwydd a llwyddo mewn busnes.

Cyfleoedd Datblygiad Personol


Hyfforddiant a digwyddiadau a anelir at helpu artistiaid ac entrepreneuriaid creadigol i archwilio'u potensial creadigol a datblygu sgiliau cyffredinol a fydd yn cyfoethogi mynegiant a chreadigrwydd artistig.


View Larger Map
 
iCreu @ Y Llwyfan

Image

Llwyfan i’r Celfyddydau Creadigol a Diwylliannol yn Sir Gaerfyrddin.

Croeso i iCreu, prosiect a grëwyd i gynnig hyfforddiant yn y maes creadigol a’r celfyddydau diwylliannol, gweithgareddau a datblygiad ar gyfer sefydliadau ac unigolion Creadigol a Diwylliannol o fewn De-orllewin Cymru. Ar y cyd â datblygu entrepreneuriaeth yn y sector artistig.

Os ydych yn unigolyn neu sefydliad creadigol wedi’ch lleoli yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin, ac yn chwilio am gefnogaeth neu ddatblygiad proffesiynol a hyfforddiant sgiliau, gallwn ni yn iCreu eich helpu.

Cyllidir y prosiect yn rhannol gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD) a Llywodraeth Cynulliad Cymru fel rhan o’r Cynllun Datblygu Gwledig 2007 – 13, ac fe’i cefnogir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Cyngor Sir Caerfyrddin a Choleg Prifysgol y Drindod. Bydd y prosiect yn cynnig cyfleoedd rhad ac am ddim ar gyfer rhwydweithio a datblygu sgiliau i bobl greadigol Sir Gaerfyrddin.

Rhowch eich ysbryd entrepreneuraidd a’ch talentau creadigol o flaen cynulleidfa ehangach ac archwiliwch eich potensial gydag iCreu @ Y Llwyfan

 

iCreu Login